Dawnswyr Môn

Noson Ymarfer

Pob Nos Fercher

Ysgol y Borth
Porthaethwy
Ynys Mon

Cyswllt:
Mrs Mair Jones
01248 450508

Dawnswyr Mon

Practice Night

Every Wednesday Night

Ysgol y Borth
Menai Bridge
Anglesey

Contact:
Mrs Mair Jones
01248 450508

Sefydlwyd Dawnswyr Môn ym 1980. Parha rhai o'r dawnswyr gwreiddiol i ddawnsio ac mae llawer o aelodau newydd wedi ymuno â'r tim dros y blynyddoedd. Mae'r aelodau'n amrywio mewn oedran o blant ysgol i rai sydd wedi ymddeol, ac mae gwaith yr aelodau'n amrywio llawn cymaint.

Mae llawer o offerynnwyr yn aelodau, a'r offerynnau fydd yn cyfeilio fel arfer yw ffidil, telyn, acordion, ffliwt, pib dun a soddgrwth. Bydd y dawnswyr a'r offerynnwyr yn cyfarfod yn wythnosol yn Ysgol y Borth i ymarfer.

Mae Dawnswyr Môn yn brysur drwy'r flwyddyn yn dawnsio a chynnal twmpathau i gymdeithasau lleol, mewn priodasau ac i ymwelwyr tramor. Adlewyrcha'r dawnsfeydd amrywiaeth yn y traddodiad dawnsio Cymreig gan gynnwys dawnsfeydd hwyliog y ffair, dawnsio mewn clocsiau a'r dawnsfeydd llys mwy urddasol.

Mae'r gwisgoedd wedi eu selio ar luniau o wisgoedd traddiodiadol o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Paratowyd y rhain gan Augusta Hall - Arglwyddes Llanofer - a fu'n weithgar yn ceisio adfywio a lledaenu'r diddordeb yn niwilliant traddodiadol y werin Gymreig.

 Ymwelwyd a llawer o wledydd yn cynnwys Llydaw, Iwerddon, yr Alban, Lloegr, Norwy, Denmarc, Ynys Manaw, Sbaen, Ffrainc a Hwngari.

Bydd Dawnswyr Môn hefyd yn cystadlu yn achlysurol yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Wyl Gerdd Dant, yn flynyddol yn Eisteddfod Môn, ac maent wedi cael llwyddiant yn genedlaethol ac yn lleol.

Trefnir Gwyl Fai Dawnswyr Môn bob yn ail flwyddyn a bydd dawnswyr o bob rhan o Gymru yn ymuno i ddawnsio o amgylch yr ynys ar y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Mai. Yn ystod yr Wyl gwelir dawnsio yn amryw o drefi'r Ynys yn ogystal ac ymweld â Gwyl Mabsant Bodedern.

Mae llawer o'r aelodau bellach yn dysgu plant yr ynys i ddawnsio ac yn trefnu gwyl i blant lle daw rhai canoedd o blant at ei gilydd i gyd ddawnsio.

Fel pan sefydlwyd Dawnswyr Môn, y nôd yw parhau i fwynhau a hybu dawnsio gwerin Cymreig yn lleol ac ymhellach oddi cartref.

 

 

Dawnswyr Môn was founded in 1980 and is based on Anglesey, an island off the north coast of Wales. Some of the founder members are still dancing and many new members have joined over the years. Members vary from school children to those who have retired, and the members' occupations are just as varied.

Many members are musicians, and the dancing is usually accompanied by harp, violin, flute, accordion, whistle and 'cello. The dancers and musicians meet weekly to rehearse at Ysgol y Borth.

Dawnswyr Môn are busy throughout the year participating in concerts and festivals and entertaining local societies, foreign visitors and at weddings. Audiences are given the chance to take part in the social dances, as well as watching the team performing the more complicated dances. The dances vary in style and format reflecting the Welsh tradition, and include lively fair dances, clog dances (where the dancers make use of the wooden soles of clogs to produce different sounds) and the more graceful courtly dances.

The dancers have visited many countries including Brittany, Ireland, Scotland, England, Norway, Denmark, The Isle of Man, Spain, France and Hungary.

The costumes are based on drawings of traditional costumes from various regions of Wales, worn by Welsh peasants at the end of the eighteenth century . Some of these sketches were drawn by Augusta Hall - Lady Llanofer who took a keen interest in Welsh folk customs and traditions and sought to promote it.

Dawnswyr Môn compete occasionally in the National Eisteddfod, the Gwyl Gerdd Dant and annually in Eisteddfod Môn, and have been successful nationally and locally.

Dawnswyr Môn arrange their own May Festival every other year and dancers from all over Wales join in the dancing on the first Saturday in May. During the festival many Anglesey towns are visited as well as Gwyl Mabsant, Bodedern.

Many of Dawnswyr Môn's members teach children on the island to dance and also arrange a dancing festival for children, where several hundred children in costume, get together to dance.

As when the group was founded, the aim of Dawnswyr Môn is to enjoy and promote Welsh folk dancing locally and further afield.

 

 

 

Tudarlennau'r We wedi'u paratoi gan / Web Pages prepared by Dafydd Thomas, Aberystwyth
©Dawnswyr Mon 1999

  Last Updated on