Cymdeithas Ddawns Werin Cymru
Welsh Folk Dance Society

Hanes / History
Cylch-Lythr Cyntaf / 1st Newsletter
1953

Page 15

GAIR GAN Y TRYSORYDD

Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yw un o'r cymdeithasau ieuengaf yng Nghymru, ac y mae eisoes wedi ennyn brwdfrydedd mawr yn y De a'r Gogledd. Ymaelododd cannoedd o bobl ifanc a chanol oed a hi mewn ychydig flynyddoedd.

Mae ei chyfraniad i Gymru yn wych, a'i phwyslais ar yr agwedd honno o'n diwylliant gwerin a anwybyddwyd gymaint gennym, sef adfer i fywyd y wlad yr hen ddawnsiau a'r chwaraeon iach a fwynheid gan ein hynafiaid gynt ar y twmpath chwarae.

Hyfryd yw gweld plant yr Urdd a'n pobol ifanc mor awyddus i ddysgu ac ymarfer y rhain ac yn gweu trwy'i gilydd yn ffigyrau prydferth yr hen ganeuon gwerin a'r hen ddawnsiau traddodiadol. Y mae ein dyled, yn anad neb, i Mrs. Lois Blake, ein llywyddes, am roi ysbrydiaeth i fudiad mor werthfawr, ac am ei gweithgarweii diflino.

Fel trysorydd, gwahoddaf eraill i ymuno ac i roi pob cefnogaeth i fudiad sydd mor addawol. Gofynnaf yn garedig hefyd i aelodau'r Gymdeithas anfon eu cyfraniadau blynyddol yn gyson.

Tal aelodaeth yw 5/-, Aelodaeth am oes £5. Grwpiau, Gini,

I'w hanfon i'r Trysorydd.

W. EMRYS CLEAVER.

Glyn Myfyr, Denbigh Road,
Rhuthyn.

_________________________

It is now four years since our Society was formed, and we can justly boast that each succeeding year has been more successful than the last. The membership has steadily increased and new enthusiasts from North and South Wales are still coming in.

The work of the Society is now well in hand under the leadership of our excellent President. Mrs. Lois Blake-the "soul" of our movement. We can be proud of the fact that the Society has got something really splendid to give to Wales, our native land, who has neglected for so long the natural and spontaneous side of her simple culture.

As the treasurer I invite others who have not as yet joined us to do so, and respectfully remind subscribers that enthusiasm, though essential, is not enough to ensure the well being of this movement in Wales. Please send your subscriptions regularly.

Individual subscriptions are 5/- a year, and £5 life Membership, while Groups may join for One Guinea, and should be sent directly to the Treasurer :

W. EMRYS CLEAVER.

Glyn Myfyr, Denbigh Road,
Ruthin, N.Wales.

  ( 15 )

  Cychwyn

 

Last Updated on 1/7/2001