Hanes Y Grwp

Ffurfiwyd Dawnswyr Nantgarw ym 1980 dan hyfforddiant Eirlys Britton. Rhieni ac athrawon Ysgol Gynradd Heol y Celyn, Pontypridd oedd yr aelodau gwreiddiol. Erbyn hyn ehangwyd yr aeolodaeth i fod yn un o dimau mwyaf llewyrchus Cymru, ond fe ddeil hi’n fwriad i ddod a dawnsio gwerin a’r diwylliant gwerin Cymreig yn ôl i gymoedd y Rhondda a Dyffryn Taf.
Daeth llwyddiant cystadleuol i’r tim yn fuan gyda gwobrau cyntaf yn yr Wyl Ban Geltaidd yng Nghilairne ym 1983 a 1985, gwobrau yn yr Wyl Gerdd Dant ym 1982, 1983 ac 1984. Llwyddwyd i ennil tair gwobr cyntaf a dwy ail allan o bum cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun ym 1986 a’r brif gystadleuaeth eto’r flwyddyn ganlynol ym Mhorthmadog ym 1987
Ond uchafbwynt yr holl gystadlu oedd y ddwy flynedd o 1989 i 1991 yn nhymor 1989 fe enillwyd y goron driphlig sef yr Wyl Gerdd Dant, Eisteddfod Gydwladol Llangollen a’r Eisteddfod Genedlethol. Dychwelyd i Langollen ym1990 a 1992 a dod yn ail ddwy waith.
Wedi ei lwyddiant ym Mhrydain, gwahoddwyd y grwp i gystadlu ym mhencampwriaethau’r byd yn Palma, Mallorca ym 1991 ac yno llwyddwyd i ennill ail wobr yn y category y grwp gorau.Dilynodd y rhaglen deledu gylchgrawn ‘Hel Straeon’ y grwp i Mallorca a chynhyrchwyd rhaglen ddeugain munud ar y daith fuddugoliaethus. Yn wir meant yn ymddangos yn rheolaidd ar y teledu ar rhaglen gwerin megis Teulu’r Tir a chyngherddau’r BBC o Neuadd Dewi Sant.

Mae aelodau o’r grwp yn enillwyr cenedlaethol hefyd, nid yn unig yn y cystadleuthau dawnsio a chlocsio unigol, ond hefyd yn y meysydd adrodd, cerdd dant,canu gwerin a chanu’r Delyn.
Ond nid ar gystadlu’n unig mae bryd y tim. Maent yn cynnal twmpathau a chyngherddau yn gyson ar hyd a lled Cymru ac yn teithio dros glawdd Offa’n fynych i arddangos eu dawnsio i gymdeithasau Cymraeg. Maent wedi ymddangos yn Neuadd Albert yn Llundain dair gwaith.