Cymdeithas Ddawns Werin Cymru
Welsh Folk Dance Society

Hanes / History
Cylch-Lythr Cyntaf / 1st Newsletter
1953

Page 10-11

      YR URDD A'R DDAWNS WERIN

      __________

 Rhyw bedair blynedd yn o1 y daeth yr Urdd gyntaf i gysylltiad a Mrs. Lois Blake a hynny mewn Cwrs Nadolig yni Mhantyfedwen. Y pryd hwnnw, Dawns Llanofer oedd yr unig ddawns Gymreig a wyddai'r mwyafrif ohonom er bod gennym frith gof am y dawnsiau plant a ddysgid ar gyfer y Mabolgampau gynt. Merched yn unig, wrth gwrs, a geid i ddawnsio Dawns Llanofer pan fyddai galw amdani ; byddai'n anfri ar fachgen i ofyn iddo wneud peth mor ferchetaidd !

 Ond dyma roi Dawnsio Gwerin ar raglen y Cwrs Nadolig a gwahodd Mrs. Lois Blake yno i'w cyflwyno. Tueddi i godi'u trwynau yr oedd y dynion ond fe gytunodd y rhai mwyf dewr i ymuno "jest o ran hywl" ac o barch i Mrs. Blake. O edrych yn ol yn awr, y mae'n rhaidein bod yn ymddangos i Mrs. Blake yn bur ainobeithiol, yr wythnos honno - yn cymryd yn hir i ddysgu dawns ac yn glogyrnaidd i'r eitha. Ond yr oedd y syniad wedi dechrau cydio a hyd yn oed y bechgyn yn cydnabod fod rhywbeth ynddo wedi'r cwbl. Proffwydem ninnau yr ai'r syniad o nerthi i nerth, a rhoi pum mlynedd iddo wreiddio yn nychymyg ieuenctid Cymru. Yr oedd llawer o bethu yn ein herbyn: nid oedd traddodiad dawnsio gwerin yng Nghymru ers dau can mlynedd a pheth i ferched yn unig oedd y dawnsiau a ddysgid yn yr ysgolion.

Yna, fe ddaeth y Gwersyll Celtaidd ym Mhantyfedwen yng ngwyliau'r Pasg a Mrs. Blake gyda ni unwaith eto. Yno hefyd yr oedd tyrfa dda o Wyddelod ieuinc ac wrth weld y bechgyn hynny yn dawnsio am oriau gyda brwdfrydedd a gosgeiddrwydd, fe laddwyd - am byth gobeithio - y gred ei fod yn beth merchetaidd i wneud dawnsio gwerin.

 O hynny ymlaen, fe awd ati o ddifri. Cafwyd cyrsiau undydd mewn Dawnsio Gwerin, a phrin y cynhaliwyd unrhyw gwrs preswyl lle nad oedd Dawnsio Gwerin yn cael ei le. Erbyn hyn,

( 10 )

YR URDD A'R DDAWNS WERIN - parhad.

 fe geir dosbarthiadau cyson mewn nifer mawr o Aelwydydd ac Adrannau ac yn eu plith y mae Aberdaron, Aberpennar, Abersoch, Aberystwyth, Bethesda, Caerau, Caernarfon, Criccieth, Cross Inn, Cwmafan, Dyserth, Felinfoel, Foel Lixswm, Llanbedr, Llanberis, Llanbrynmair, Llanelwy, Llanfair Caereinion, Llanfyllin, Machynlleth, Treherbert ac Ystalfera; gyda dosbarthiadau Adran yn unig yn Abertridwr, Merthut, Pontrhydyfen, Porthmadog a'r Wyddgrug. Mae Adrannau ysgolion hefyd mewn ambell fan wedi gafael yn dynn yn y ddawns a gellid nodi yn arbennig Ysgol Fodern Bangor, Ysgol Fodern Blaendulais, Ysgol Fodern Cymmer (Port Talbot), Ysgol Fodern Fflint, Ysgol Ramadeg y Garw, Ysgol Ramadeg Pontardawe ac Ysgol Gymraeg Ynyswen.

 Trefnwyd Gwyliau Dawnsio Gwerin gan Gylchoedd a Siroedd a rhoddwyd cystadleuthau Dawnsio Gwerin ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, ac yn 1952, rhoddwyd darlun mawr o Siroedd Cymru o waith Mrs Blake fel gwobr yng nghystadleueth Dawnsio Gwerin yr Aelwydydd. Daeth y Ddawns Werin yn ei grym hefyd i'r Mabolgampau yng Nghaerdydd. Ond hwyrach mae'n ddiweddaraf o'r gwyliau hyn oedd Rali Aelwydydd Gogledd Cymru yn Llangollen ddydd Sadwrn Tachwedd 15fed, pan oedd dros gant o ieuenctid yn ymuno'n frwd yn y dawnsio am brynhawn cyfan dan gyfarwyddyd Miss Alice Williams, Trefnydd yr Urdd yn Arfon.

 Y cam nesaf fydd datblygu cerddorfa fechan, ac y mae mawr angen offerynwyr o blith yr aelodau eu hunain. Hyfryd fyddai gweld tri neu bedwar o offerynwyr ym mhob Aelwyd lle ceir dosbarth Dawnsio Gwerin. Byddai'n gymaint o gyffaeliad i Dwmpath Dawnsio yn yr awyr agored. Tybed na ellid rhoi'r pum mlynedd nesaf i hybu gwaith yr offerynwyr? Byddai'n gyfraniad gwerthfawr i fywyd yr Aelwyd ac i fywyd Cymru gyfan. Beth amdani, Aelwydydd ?

 GWENNANT DAVIES.

( 11 )

 Ymlaen Cychwyn

 

Last Updated on 1/7/2001