Cymdeithas Ddawns Werin Cymru
Welsh Folk Dance Society

Hanes / History
Cylch-Lythr Cyntaf / 1st Newsletter
1953

Page 9

Y WISG GYMREIG

___________

Fe gynnwys y wisg Gymreig, yn ol y gred gyffredin amdani, het uchel, pais, betgwn, ffedog a siol, y cwbl o wneuthuriad lleol. Math o got laes oedd y betgwn yn flurfio gwasg ae yn cau tros y bronnau, a chynffon hir a ddeuai tros y bais y tu ol, a'r ffedog yn cuddio ffrynt y bais.

Rhaid deall nad oedd dim arbennig Gymreig yn y wisg hon. Yr oedd yr un mor adnabyddus trwy Loegr. Dywed Scott am wragedd Northumberland yn nechrau'r 19eg ganrif: "The women had no other dress than a bedgown and a petticoat." Yn y flwyddyn 1834, sgrifennodd Gwenynen Gwent (yr Arglwyddes Llanofer ar ol hynny) draethawd ar "Yr laith Gymraeg, a Dull-wisgoedd Cymru," lle y pleidiai tros wisg genedlaethol o wlanen neu frethyn, fel cynnyrch naturiol Cymru, yn hytrach na'r "defnyddiau anghysurus" tramor ! Hyn a achosodd barhad y bais a'r betgwn mewn llawer ardal fel gwisg " draddodiadol " ! Nid oes i'r wisg draddodiad cenedlaethol o gwbl ; mae hynny'n eglur hefyd gan nad oes wisg "genedlaethol" i wyr.

Eithr gan fod y wisg bellach wedi ennill ei lle, ni thal ei hanwybyddu ac ar gyfer dawnsio gwerin hawdd fyddai datblygu ar seiliau'r hen. Sut bynnag, mater i wneuthurwyr gwisg ysgafn gwisgoedd yw hyn yn hytrach na phroblein i wr fel myf !

DR. IORWERTH C. PEATE.

( 9 )

 Ymlaen Cychwyn

 

Last Updated on 1/7/2001