 |
Gadawodd
y ddau i weithio yng nghrochendy Cambrian, Abertawe lle
parhawyd â’r gwaith o arbrofi gyda resait
Billingsley. Ymhen ychydig flynyddoedd, yn 1817, dychwelodd
y ddau i Nantgarw i dreio unwaith eto. Yr un oedd eu tinged,
ac erbyn 1820 roedd amgylchiadau ariannol y ddau wedi
dirywio gymaint nes bu’n rhaid cau’r crochendy
eto a symud i Coalport i weithio. Yno, yn 1828 y bu farw
William Billingsley, ac oddi yno yr aeth Samuel Walker
i’r America lle agorodd crochendy Temperance Hill
yn Ngorllewin Troy, Efrog Newydd.
Cynhyrchwyd
pibau tobacco yn Nantgarw yn 1835 gan gwmni o’r
enw W.H.Pardoe. Bu’n cynhyrchu pibau tan 1920 ac
yn ei anterth roedd y busnes yn cynhyrchu yn agos i 10,000
yr wythnos. |