
 |
-
Ffurfiwyd Dawnswyr Nantgarw ym 1980 dan hyfforddiant Eirlys
Britton. Rhieni ac athrawon Ysgol Gynradd Heol y Celyn, Pontypridd
oedd yr aelodau gwreiddiol. Erbyn hyn ehangwyd yr aeolodaeth
i fod yn un o dimau mwyaf llewyrchus Cymru, ond fe ddeil hi’n
fwriad i ddod a dawnsio gwerin a’r diwylliant gwerin
Cymreig yn ôl i gymoedd y Rhondda a Dyffryn Taf.
Daeth llwyddiant cystadleuol i’r tim yn fuan gyda gwobrau
cyntaf yn yr Wyl Ban Geltaidd yng Nghilairne ym 1983 a 1985,
gwobrau yn yr Wyl Gerdd Dant ym 1982, 1983 ac 1984. Llwyddwyd
i ennil tair gwobr cyntaf a dwy ail allan o bum cystadleuaeth
yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun ym 1986 a’r brif
gystadleuaeth eto’r flwyddyn ganlynol ym Mhorthmadog
ym 1987
Ond uchafbwynt yr holl gystadlu oedd y ddwy flynedd o 1989
i 1991 yn nhymor 1989 fe enillwyd y goron driphlig sef yr
Wyl Gerdd Dant, Eisteddfod Gydwladol Llangollen a’r
Eisteddfod Genedlethol. Dychwelyd i Langollen ym1990 a 1992
a dod yn ail ddwy waith.
Wedi ei lwyddiant ym Mhrydain, gwahoddwyd y grwp i gystadlu
ym mhencampwriaethau’r byd yn Palma, Mallorca ym 1991
ac yno llwyddwyd i ennill ail wobr yn y category y grwp gorau.Dilynodd
y rhaglen deledu gylchgrawn ‘Hel Straeon’ y grwp
i Mallorca a chynhyrchwyd rhaglen ddeugain munud ar y daith
fuddugoliaethus. Yn wir meant yn ymddangos yn rheolaidd ar
y teledu ar rhaglen gwerin megis Teulu’r Tir a chyngherddau’r
BBC o Neuadd Dewi Sant.
Mae
aelodau o’r grwp yn enillwyr cenedlaethol hefyd, nid yn
unig yn y cystadleuthau dawnsio a chlocsio unigol, ond hefyd
yn y meysydd adrodd, cerdd dant,canu gwerin a chanu’r
Delyn.
Ond nid ar gystadlu’n unig mae bryd y tim. Maent yn cynnal
twmpathau a chyngherddau yn gyson ar hyd a lled Cymru ac yn
teithio dros glawdd Offa’n fynych i arddangos eu dawnsio
i gymdeithasau Cymraeg. Maent wedi ymddangos yn Neuadd Albert
yn Llundain dair gwaith.
|
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|