Y
Band
|
Ers
Blynyddoedd lawer bu cerddorion a dawnswyr gwerin yn pwyso’n
drwm ar dri llyfryn bach o alawon dawnsio traddodiadol
a luniwyd gan Alex Hamilton. Mae’r llyfrau yma –
Blodau’r Grig – yn hanfodol i gerddorion ac
rydym ni ym mand Nantgarw yn eu defnyddio’n aml.
Mae hi’n draddodiadol i ddechrau a gorffen pop dawns
gyda’r gerddoriaeth sydd yn gysylltiedig â
hi, ond byddai ail adrodd yr un dôn yn creu diflasdod
i’r gynulleidfa, y cerddorion a’r dawnswyr.
Felly, trefnir y miwsig yn ofalus i sicrhau asiad a chydbwysedd
rhwng yr offerynau i greu naws a thinc Cymreig i’r
gerddoriaeth. Dewisir tonau i gyd-redeg â’r
gwreddiol er mwyn creu cyfanwaith teilwng gyda’r
dawnswyr. Ein nod yw creu cerddoriaeth sy’n apelgar
a diddorol i bawb.Defnyddiwn sawl tôn draddodiadol
megis Machynlleth fel ail dôn i Abaty Llantoni a
Breuddwd y Wrach i Hoffed ap Hywel, ond mae ambell i ddawns
yn gofyn am drydedd ac efallai bedwaredd tôn a phan
nad oes tôn draddodiadol yn addas,yna fe ddefnyddiwn
ambell i alawon gwerin fel Bugeilio’r Gwenith Gwyn
neu Ym Mhontypridd Mae ‘Nghariad. Cyfnsoddwyd llawer
o fiwsig y band gan y cerddorion eu hunain a ffrindiau’r
grwp. Mae’r rhain yn cynnwys Iar y Rhedyn / Ceiliog
y Rhedyn, Y Ddeilen Fach Werdd / Meillionen, Pontypridd
/ Pont Cleddau, Dawns y Pelau a Llangyndeyrn / Abergenni.
Mae
cefndir ein cerddorion mor amrywiol â’r gerddoriaeth
a chwaraewn. Nid yw’n syndod felly eu bod yn gartrefol
wrth chwarae tonau araf ar gyfer dawnsfeydd llys fel Sawdl
y Fuwch, emyndonau ar gyfer dawns unigol Salem. Cyfalawon
cerdd dant i’r triawd clocsio, darnau nwyfus ac
ysgafn ar gyfer dawnsfeydd ffair a hyd yn oed jazz ar
gyfer y ddawns ddychanol ‘In the Mood’.
Gobeithiwn
fod y gerddoriaeth yn ddymunol i’w chwarae, yn fwynhad
i wrando arni ac yn ychwanegu at berfformiad y dawnsio
gan wneud yr hyn welwch a’r hyn glywch yn berfformiad
caboledig cyfan. |