 |
Dawns
Flodau Nantgarw, Gwyl Ifan, Ffair Caerffili, Dawns y Pelau,
Ceiliog y Rhedyn, Rali Twm Sion, Morfa Rhuddlan, Dawns
y Marchog, Y Gaseg Eira. Galwyd y casgliad yma i gof gan
Margaretta Thomas ac fe’u nodwyd gan ei merch Dr.
Ceinwen Thomas.
Dawnsfeydd yw rhain a welodd hi fel merch fechan yn cael
eu dawnsio yn y ffeiriau a’r tafarndai a’r
gwyliau a ddathlwyd cyn y diwygiad crefyddol ar droad
y ganrif. Ar wahan i ddwy ddawns unigol, sef dawns y Marchog
a Morfa Rhuddlan, dawnsfeydd ffair, llawn asbri ac egniol
ydynt, er, mae’n sicr os edrychwn yn ddyfnach mae
olion Morris a defodol i’w gweld arnynt. Hefyd rhaid
cofio pan oedd Margaretta yn ferch fach roedd yn arferiad
i ddodi llawr pren yn y ffeiriau, ei gau a rhaff ac yno
y doi dynion a marched i ddawnsio a chasglu arian gan
y gwylwyr.
|