Ein Hardal

Mae ein hardal yn fyd enwog, nid am ei dawnsio efallai ond am ei crochenwaith.
Mae crochendy Nantgarw newydd ei adnewyddu a’i agor fel amgueddfa a chanolfan i arddangos y darnau o borselin prin sy’n werthfawr dros ben. Ond o fewn i Gymru a’r byd dawnsio gwerin mae Nantgarw yn enwog am reswm arall hefyd achos oddi yno y death un o’r casgliadau mwyaf gwerthfawr o ddawnsfeydd gwerin.

Pentref bychan iawn yw Nantgarw sy’n swatio ar lannau’r afon Taf wrth draed mynyddoedd y Garth a Chaerffili rhyw bum milltir i’r gogledd o Gaerdydd a saith milltir i’r de o Bontypridd a chymoedd glofaol y Rhondda.

Ardal ddiwydiannol yw Nantgarw ers troad y ganrif pan ddaeth gweithwyr o bob rhan o’r wlad i dyllu’r glo.

Trwyddo rhedai’r gamlas ac yn ddiweddarach y brif lein rheilffordd gludai’r glo a’r dur o’r Rhondda a Merthyr. Bryd hynny Cymraeg oedd iaith yr ardal a Chymreig oedd ei thraddodiadau.

Ar droad y ganrif hefyd aeth merch ifanc o’r enw Catherine Margaretta Thomas gyda’i mamgu i ffeiriau cyfagos Caerffili a Thongwynlais. Yno gwelodd ddawnswyr a wnaeth gryn argraff arni. Yn ystod y diwygiadau crefyddol a ddilynodd death terfyn ar y dawnsfeydd, on diolch i Margaretta a’i chof rhyfeddol mae gennym heddiw gasgliad o ddawnsfeydd unigryw Nantgarw.