Dawnsio
unigol, wrth gwrs, yw Dawns y Glocsen, a’i gwreiddiau’n
ddwfn yn y lloft stabal,y ffair a’r dafarn lle byddai’r
dawnswyr am y gorau yn ceisio perfformio camau neu driciau
acrobatig na allai neb arall eu dynwared. Mae’r
elfin gystadleuol yn amlwg ynddi felly, ond geilw am fwy
na meistrolaeth traed yn unig, mae hi’n ddawns ymffrostgar,
orchestol, a rhaid i holl bersonoliaeth y dawnsiwr gael
ei gyfleu i’r gynulleidfa neu bydd y cwbwl yn ymddangos
yn fecanyddol a di–enaid.Hon yw’r unig ddawns
Gymreig efo traddodiad di-dor a feddwn, ac mae rhai pobl
yn dal i gofio gweld dynion fel Caradog Puw a Hywel Wood
yn clocsio yn nyddiau cynnar yr adfywiad dawnsio yn y
40au.
Tyfodd
y ddawns yn ei phoblogrwydd yn y 70au a chefais flynyddoedd
o bleser yn dysgu plant i glocsio yn ardal Bae Colwyn
pan oeddwn yn athro yno. Bu nifer ohonynt yn ddigon ffodus
i ennill fel unigolion yn yr eisteddfodau – ond
gan mae fel grwp y dysgwn hwy, naturiol oedd inni weithiau
berfformio fel parti o glocswyr, ac ambell waith, dawnsiwn
innau fel unigolyn a’r plant fel corws o’m
cwmpas. (Dyma wnaethom yn Llangollen pan ennillom y wobr
gyntaf.) Yn ddiweddarach death cystadleuaeth i ddeuawd
stepio yn un o eisteddfodau’r Urdd a chafwyd cyfle
i ail-greu awyrgyll y lloft stabal a’r dafarn ar
lwyfan drwy gail y naill ddawnsiwr i gystadlu yn erbyn
y llall. Datblygodd wedyn i fod yn ddawns i ddau neu ddwy,
yn wir gosodai thema, a dyma ddechrau cyfnod newydd ar
ddawnsio stepio, oherwydd galluogai hyn i’r dawnswyr
gyfleu stori.
 |
O
dipyn i beth ychwanegwyd rhagor o stepwyr i ddweud
y stori ac i ddatblygu’r thema ac mae Dawnswyr
Nantgarw, yn sicr wedi rhoi arweiniad yn y naes
hwn. Hir y peri’n y cof eu perfformiad o’r
‘Chwarelwyr’ a’r sgit odidog honno
ar Gerdd Dant a ddangosai fod modd dod â hiwmor
i mewn i’n perfformiadau
Bellach, mae’r ddawns stepio i grwp wedi hen
ennill ei phlwyf yn ein hetifeddiaeth, ac yn gystadleuaeth
sy’n rhoi cyfle i stepwyr a hyfforddwyr i
ddangos eu dawn a’u dychymyg. Mae’r
grefft o stepio wedi ei meistroli i’r fath
raddau, a’r dawnswyr wedi aeddfedu cymaint
fel eu bod yn gallu arbrofi i bob cyfeiriad bron
– a gwthio’r ffiniau a datblygu fel
y dylai pob traddodiad byw ei wneud. |
|