Seilir
gwisgoedd Dawnswyr Nantgarw ar arferion gwisg yng Nghymru
o 1750 i 1880, gan ddefnyddio elfennau o wisg y werin
yn ogystal â gwisgoedd llys y cyfnod. Brethyn cwrs
oedd defnydd y werin, a gwelir y brethyn hwn yn y betgynnau
llwyd a du a wisgir gan y marched. Cadwyd at ffurf draddodiadol
y betgwn, er fod amrywiaeth helaeth mewn ffurf a lliw
ar draws y wlad. Ers talwm gwnaed y coleri, cyffiau a
ffedogau o gotwm rhad, gyda haenau o beisiau trwm, ond
erbyn heddiw gwneir nhw allan o gotwm a lliain gwyn ysgafn.
Dillad
syml ac ymarferol oedd gan y dynion, yn addas ar gyfer
gwaith fferm. Trwseri o felfared a gwasgodi brethyn, crysau
o wlanen caled a chlocsiau am eu traed.
Fel arfer byddai’r werin yn cadw dillad arbennig
ar gyfer ffeiriau’r gwanwyn a’r haf a’r
dawnsfeydd calan gaeaf – gyda gwisgoedd muslin gwyn
Gwyl Ifan a gwisgoedd fansi, lliwgar Rali Twm Sion a Ceiliog
y Rhedyn yn enghreifftiau arbennig.
 |
Seiliwyd
gwisgoedd crand y marched ar wisgoedd llys y cyfnod,
er bod rhyddid i’r
Cynllunydd fynegi ei steil bersonol gan fod cymaint
o ddewis o ddefnyddiau erbyn hyn. Defnyddir lliwiau
moethus yn y betgynnau piws a blodau coch, ac yn
y betgynnau hufen hir dros sgyrtiau coch –
gyda choleri, cyffiau ffedogau hufen les yn creu
cryn argraff. Heb fod yn bell ar eu hôl mae’r
dynion yn gwisgo frock coats hir, trwseri penglin
duon a gwasgodi broced a melfed porffor a ffriliau
les am y gwddf a’r garddwrn.
Mae
Dawnswyr Nantgarw yn glynu at batrymau gwreiddiol
y gwisgoedd ac wedi ymchwilio i’r math o ddillad
ac esgidiau y byddai’n cael eu defnyddio ar
gyfer dawnsio. Ond rhaid, wrth gwrs, symud gyda’r
oes a defnyddio defnyddiau cyfoes. Rhaid addasu,
ac wrth i’r dawnsfeydd ddatblygu, rhaid i’r
gwisgoedd adlewyrchu’r datblygiad hwnnw i
greu traddodiad byw, ond gan geisio cadw elfennau
pwysig o’r wisg draddodiadol Gymreig. |

|