Ein
Traddodiadau a’n Iaith
Cymraeg
yw iaith swyddogol y grwp, cyfrwng y dysgu a’r gymdeithas.
Er eu bod bellach wedi ymgartrefu yn yr ardal, mae aelodau’r
grwp yn dod yn wreiddiol o bob rhan o’r wlad ac wedi dod
a’u traddodiadau arbennig gyda hwy i’r ardal hon.
Gan
fod dawnsio yn ei hanfod yn fywiog a lliwgar mae’r traddodiadau
a gysylltir ag ef hefyd yn rhai bywiog a nid yn unig yn rhoi
mwynhad i’r rhai sy’n cymryd rhan ond yn ogystal
i’r gwyliwr.Dathlwn wyliau traddodiadol y flwyddyn o’r
Nadolig, y Flwyddyn Newydd, Calan Mai, Gwyl Ifan i’r Cynhaeaf
A Chalan Gaea’.Dathlwn trwy ddawns a defod a chanu gwerin
a cherdd dant.
