Eirly's Britton


Ganwyd Eirlys Britton yng Nghaerdydd. Fe’i haddysgwyd yn ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf ac yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd. Oddi yno aeth i Goleg y Drindod, Caerfyrddin, lle graddiodd mewn Drama a Chymraeg. Bu’n dysgu am bedair mlynedd yn ysgol gynradd Heol y Celyn, lle dechreuodd ei diddordeb mewn dawnsio gwerin pan aeth ati i ddysgu timoedd o blant ar gyfer eisteddfodau – yno yr awgrymwyd iddi un amser cinio gan aelod o’r staff “Beth am wneud tim dawnsio staff ar gyfer cyngerdd yr ysgol i ddangos i’r plant fod oedolion yn dawnsio hefyd.”


 

Cyn hir roedd ambell i riant wedi ymuno hefyd a dyna enedigaeth Dawnswyr Nantgarw. Amlygodd ei hun fel actores gyda pherfformiadau yng Nghwmni Canolfan yr Urdd, Caerdydd a chael cynnig i ymuno a chast y gyfres boblogaidd “Pobol y Cwm” i chwarae rhan Beth.

Enillodd Fedal Aur Gwynfynydd yn Eisteddfod Genedlaethol Porthmadog ym 1987 am hyfforddi y tim buddugol yn y brif gystadleuaeth dawnsio gwerin.
Eirlys yw hyfforddwraig côr adrodd Caerdydd, ac mae wedi bod yn gyfrifol am ddysgu sawl unigolyn i ddawnsio ac adrodd yn llwyddiannus yng ngwyliau cystadleuol Cymru.