Y Glocsen

Cred haneswyr erbyn heddiw mai o gyfnod y Rhufeiniaid y datblygodd y glocsen. Yno cafodd ei defnyddio fel esgid yn y baddonau gadwai draed y gwyr a’r gwragedd rhag y teils neu’r marmor twym.Cafwyd hyd i fath ar glocsen mewn beddrod brenin Eidalaidd mor bell yn ôl â’r 10fed ganrif er mae’n sicr nad oedd yn ddim byd tebyg i beth alwn ni’n glocsie heddiw. Ar hyd y canrifoedd mae’r glocsen wedi bod yn symbol o’r dosbarth gweithiol a hynny am nad yw wedi talu sylw i ffasiwn ac yn esgid gwbl ymarferol – yn wir roedd gan y rhan fwyaf o Gymry ar ddechrau’r ganrif hon eu clocsie gwaith a’u sgidie Sul.


Roedd steil a siap y glocsen a’r math o bren a ddefnyddid yn dibynnu ar waith y gwisgwr. Byddai gan weithiwr yn gwiethio ar y cei, neu gyda dwr, ddarn o ledr dros y garai a glowr bar a sawdl isel rhag ofn y cai ei ddal ac y byddai’n hawdd llithro allan ohonynt ac yn sicr byddent â gwadn drwchus ar loriau poeth y gwiethfeydd tin a dur oherwydd fod pren yn drawsgludwr gwres gwael. Yma yng Nghymru broliai pobl Ceredigion mai pren sycamor a ddefnyddid i wneud eu clocsiau hwy tra yn yr Alban defnyddir pren bedw.

Dywedid fod bedw yn addas ar gyfer gwaith dan ddaear a taw dyna pam fod clocsie glowyr Cumbria, Efrog a Morgannwg yn cael eu gwneud gyda’r goeden hon. Gyda’r chwyldro diwydiannol a mwy o ffatrioedd yn troi i beiriannau death y gost o wneud sgidiau i lawr ac o'r herwydd trodd mwy a mwy o bobl oddi wrth y clocsiau diolwg at esgidiau lledr.

Yn 1901 recordiwyd fod 6276 o wneuthurwyr clocsiau yng Nghymru a Lloegr erbyn 1983 dim ond 40 oedd wrthi a’r rhan fwyaf o’r rhain yn ifanc a newydd i’r grefft. Ond mae llygedyn o obaith eto – oherwydd dywedir fod ty ffasiwn Gucci eleni am gynhyrchu cyfres arbennig o esgidiau gyda gwadn bren. Pwy a wyr efallai mai step y glocsen fydd dawns y ddegawd nesaf !!!