Y Siol Gymreig

Gellir olrhain hanes y patrwm a adnabyddir fel ‘Paisley yn ôl mor bell â theyrnas Babylon, dros 2000 o flynyddoedd, ond ni chyflwynwyd y patrwm unigryw hwn i Ewrop tan y 18 ganrif pan y mewnforiwyd siolau sidan o Kashir. Gwerthfawrogwyd y patrwm fel cynllun egsotig a death yn boblogaidd yn gyflym a galw mawr amdanynt.
Sut oedd hynny’n bosib mae’n anodd credu gan fod y siolau, bryd hynny, werth £200 - £300, ond fel pob crefft, ‘doedd y pris ddim yn adlewyrchu’r gwaith llafurus, gan y gallai gymryd cymaint â blwyddyn a hanner i gwblhau un siol. Gwelwyd potensial i gynhyrchu siolau yn y wlad hon gan wehyddwyr o dref Paisley yn yr Alban. Daeth y siol yn boblogaidd fel eitem ffasiwn, a bellach fe’i hadnabyddir fel rhan o’r wisg Gymreig.

Yr Het Uchel

Difyr yw ceisio olrhain hanes yr het uchel Gymreig a cheir sawl esboniad am darddiad yr het arbennig hon a wneir o groen afanc neu’r twrch daear. Gwelwyd yr hetiau uchel cynharaf yn Lloegr a Ffrainc yn y 17 ganrif, ac fe’u hystyriwyd yn eitem ffasiynol hanfodol a ddefnyddiwyd i goroni ac i amddiffyn wigiau uchel y cyfnod. Roeddent yn ddrud iawn i’w cynhyrchu, ac felly’r crach yn unig fyddai’n eu gwisgo. Yn bell ar ôl i’r ffasiwn farw dramor gwisgai’r gwragedd yng Nghymru yr het uchel ac erbyn heddiw nid yw’r wisg draddodiadol yn gyflawn hebddi.