Cymdeithas Ddawns Werin Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn 1949, a gwireddwyd breuddwydion y pedwar cawr – Lois Blake, Enid Jones, Emrys Clever a W.S. Gwynn Williams. Roedd dawnsio gwerin bron â diflannu yng Nghymru erbyn hynny, ar wahan i ddau neu dri o ddawnswyr clocsiau neu stepio fel Ann Lansan, Nantgarw, ardal Pontypridd a Hywel Wood a Caradog Pugh ardal y Parc a Llanuwchlyn a’r Bala. Grym y diwygiadau crefyddol mae’n debyg oedd yn gyfrifol am hynny. ‘Roedd hi’n bechod i wenu heb sôn am ddawnsio dan y tanbeidrwydd hwnnw!
Ond diolch i’r drefn death Cymdeiths Ddawns Werin Cymru i’r adwy mewn pryd ac mewn ychydig dros ddeugain mlynedd llwyddodd i adennill y ddawns i Gymru. Bu cynnydd aruthrol yn nifer y dawnswyr, grwpiau, cerddorion, gwyliau a thwmpathau. Cynyddodd ein gwybodaeth a’n maes gwiethio a death dawnsio yn ffordd o fyw a’i wreiddiau’n ffynnu a tharddu o hanes ein gwlad.

Y prawf o lwyddiant unrhyw grefft yw’r gallu i amlygu’r grefft honno ochr yn ochr â chrefft gyffelyb o ran arall o’r byd, ac i’r canlyniad fod yn ffafriol. Hyfrydwch pur yw tystio i Ddawnsio Gwerin Cymru brofi hyn droeon erbyn hyn.

Yn achos Dawnswyr Nantgarw braint i mi yn bersonol, yn ogystal ag yn rhinwedd fy swyddogaeth, eich llongyfarch am amlygu’r grefft mor fendigedig a meistrolgar a rhoi Nantgarw a Chymru ar fap y byd Dawnsio Gwerin.

Diolch yn ddiffuant i chi am y wyrth Eirlys Britton, eich hyfforddwraig.

ALICE E. WILLIAMS
(Llywydd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru)